Tony Blackburn
Mae’r DJ Tony Blackburn yn honni ei fod wedi cael ei ddiswyddo gan y BBC ynglŷn â’i dystiolaeth i adolygiad o gam-drin rhywiol gan Jimmy Savile.

Dywed Tony Blackburn y bydd yn cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y gorfforaeth, gan honni ei fod yn cael ei ddefnyddio fel  “bwch dihangol” er mwyn “celu” camdriniaeth o ferch 15 oed.

Daw ei ymadawiad annisgwyl ar drothwy cyhoeddi adroddiad y Fonesig Janet Smith i ddiwylliant y BBC yn ystod y blynyddoedd pan oedd Jimmy Savile a’r cyflwynydd Stuart Hall yn gweithio yno.

Mae Blackburn, 73, yn honni bod ei gytundeb gyda’r BBC wedi “dod i ben ar unwaith” yr wythnos hon. Mae’n honni bod y penderfyniad wedi’i wneud oherwydd bod y dystiolaeth a roddodd i’r adolygiad ynglŷn ag ymchwiliad ym 1971 yn gwrth-ddweud tystiolaeth y BBC. Mae’n ymwneud a honiad o gam-drin gan fam merch 15 oed a oedd wedi lladd ei hun yn ddiweddarach.

Dywed Tony Blackburn nad yw erioed wedi cael ei holi ynglŷn â’r digwyddiad ond mae’n honni bod y BBC yn dweud ei fod wedi cael ei holi ddwywaith.

Mewn datganiad, mae’n dweud “nad oes dewis” ganddo ond cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y BBC.

Ar wefan y BBC, mae’n dweud y bydd y DJs Jaki Graham a Lemar yn cymryd ei le ar ei raglenni ar gyfer BBC Radio London.

Mae’r BBC wedi gwrthod gwneud sylw ar y mater.

Adroddiad

Fe fydd yr adroddiad hir-ddisgwyliedig i gam-drin rhywiol gan gyflwynydd y BBC Jimmy Savile yn cael ei gyhoeddi’n ddiweddarach heddiw.

Cafodd fersiwn ddrafft o adroddiad y Fonesig Janet Smith ei ddatgelu a oedd yn cyhuddo’r BBC o ddangos “diwylliant o barch” tuag at Savile a sêr eraill a bod rheolwyr yn meddwl eu bod  “y tu hwnt i’r gyfraith.”