Bu’n rhaid i awyren Virgin Atlantic, oedd ar ei ffordd i Efrog Newydd, ddychwelyd i Heathrow ddoe ar ôl i olau laser gael ei ddisgleirio i gaban y peilot nos Sul.

Dywedodd llefarydd ar ran Virgin Atlantic bod y cyd-beilot wedi teimlo’n wael wedi’r digwyddiad a’u bod wedi troi yn ôl i Heathrow fel “mesur rhagofal”.

Ychwanegodd mai diogelwch y criw a’r cwsmeriaid ar fwrdd yr awyren VS025, a oedd yn teithio o Lundain i JFK yn Efrog Newydd, oedd y “brif flaenoriaeth.”

“Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau i geisio adnabod tarddiad y laser a oedd wedi achosi i’r awyren ddychwelyd i Heathrow,” meddai.

Dywed yr heddlu eu bod nhw hefyd yn ceisio darganfod o le daeth y golau laser.

‘Peryglus’

Yn 2010, daeth cyfraith newydd i rym yn y DU sy’n golygu ei bod yn drosedd i ddisgleirio golau at awyren fel ei fod yn amharu ar y peilot.

Mae’r undeb sy’n cynrychioli peilotiaid awyrennau ym Mhrydain (Balpa), wedi dweud bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael a’r broblem ac nad yw hyn yn “ddigwyddiad ynysig.”

“Mae’n beth hynod o beryglus i’w wneud. Mae disgleirio golau laser at awyren yn rhoi’r awyren, y criw, a’r teithwyr ar ei bwrdd mewn perygl hollol ddianghenraid.

“Mae gan oleuadau laser modern y gallu i ddallu rhywun dros dro, ac yn gallu tynnu sylw’r peilotiaid yn ystod cyfnod tyngedfennol y daith.”

Maen nhw’n galw ar y Llywodraeth i ystyried goleuadau laser fel arfau ymosodol  fel bod gan yr heddlu fwy o rym i arestio pobl sydd a’r goleuadau yn eu meddiant os nad oes rheswm da dros eu cael nhw.