Mae ymchwiliad ar y gweill i lofruddiaeth dynes yn Aberdeen.

Cafodd corff y ddynes ei ddarganfod mewn fflat brynhawn dydd Gwener, ac mae lle i gredu ei bod hi’n butain.

Mae’r heddlu wedi apelio ar y cyhoedd i fod yn wyliadwrus ac i ddilyn canllawiau diogelwch.

Cadarnhaodd yr heddlu eu bod nhw’n cydweithio â nifer o grwpiau cymorth cenedlaethol wrth gynnal yr ymchwiliad.

Dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi unrhyw fanylion am y ddynes hyd yma.