Mae’r heddlu’n chwilio am ddyn o dras Asiaidd sydd wedi’i amau o ymosod yn rhywiol ar nifer o fenywod yng nghanol dinas Manceinion.

Mae lle i gredu bod y dyn, sydd oddeutu 30 oed, wedi ymosod ar fenywod 19, 21 a 22 oed.

Mae’r heddlu wedi cyhoeddi lluniau o’r dyn y maen nhw’n chwilio amdano, gan ddweud ei fod yn cario ymbarel Blacks.

Digwyddodd yr ymosodiadau ar Ionawr 30, Chwefror 6 a’r bore ma.

Dylai unrhyw un sy’n gwybod unrhyw beth am yr ymosodiadau ffonio’r heddlu ar 0161 856 3221 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111.