Mae dau o bobol wedi’u harestio ar y ffin rhwng Gwlad Groeg a Thwrci ar amheuaeth o gludo dryllau a ffrwydron.

Cafodd y ddau sydd yn eu 20au ac a gafodd eu geni yn Irac, eu harestio nos Sadwrn yn ninas Alexandroupoulis.

Roedd trelar a gafodd ei ddarganfod yn cynnwys mwy na dwsin o ddryllau ac 20,000 o fwledi.

Mae’r Swyddfa Dramor yn ymchwilio i’r sefyllfa.