Y tân yn ffatri Tata o bellter (llun: Twitter/@RhysJames00)
Mae tân yn ffatri Tata ym Mhort Talbot a ddechreuodd bore ’ma bellach wedi cael ei ddiffodd.

Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, eu galw toc wedi 8.00 o’r gloch bore dydd Iau, ac roedd chwe cherbyd tân ar y safle.

Roedd lluniau wedi cael eu rhannu ar wefannau cymdeithasol wrth i’r mwg a’r fflamau amgylchynu’r gweithfeydd dur.

Credir mai mellten oedd yn gyfrifol am achosi’r tân.

‘Dan reolaeth’

Mae’r gwasanaeth tân yn parhau i fod ar y safle fel rhagofal.

“Fel mae’n sefyll, mae hon yn ddigwyddiad ynysig ac mae’r pŵer wedi cael ei adfer,” meddai llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru.

“Rydyn ni wrth law rhag ofn bod pethau’n gwaethygu.”

Ychwanegodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn credu bod y tân yn un “gymharol fach” ac mai’r gwasanaeth tân oedd yn bennaf gyfrifol am ddelio â’r digwyddiad.

Fis diwethaf fe gyhoeddwyd y bydd 750 o swyddi’n diflannu ar y safle, fel rhan o gynlluniau Tata i gael gwared a 1,050 o swyddi ar draws y DU.