Gwesty'r Regency yn Nulyn lle cafodd David Byrne ei ladd
Fe fydd yr heddlu a phenaethiaid cyfiawnder yn Iwerddon yn cynnal trafodaethau heddiw ymysg pryderon y gallai rhagor o bobl gael eu lladd oherwydd elyniaeth rhwng gangiau troseddol – mae tri eisoes wedi marw.

Eddie Hutch, dyn canol oed, yw’r diweddaraf i farw wedi iddo gael ei saethu tu allan i’w gartref yn North Strand, Dulyn neithiwr.

Roedd y gŵr yn frawd i Gerry Hutch, a gâi ei adnabod fel ‘The Monk’, ac a wnaeth gydnabod yn 2008 ei fod yn droseddwr, ond gwadu ei fod yn ddeliwr cyffuriau.

Roedd y ddau hefyd yn perthyn i Gary Hutch a gafodd ei saethu pum mis yn ôl.

Credir mai Gary Hutch oedd y cyntaf i ddioddef yn sgil yr elyniaeth gangiau sy’n cwmpasu rhwng Dulyn a rhannau o Sbaen.

Credir bod o leiaf pedwar dyn mewn mygydau yn rhan o’r ymosodiad ar Eddie Hutch yn North Strand, Dulyn nos Lun.

Mae car BMW 3 Series oedd yn rhan o’r ymosodiad wedi ei ganfod o gwmpas Drumcondra.

‘Cysylltiedig’

Mae’r saethu hwn yn dilyn ymosodiad yng Ngwesty’r Regency, Dulyn ddydd Gwener ddiwethaf.

Bu farw David Byrne yn dilyn ymosodiad gan gang o chwech, lle credir bod tri aelod yn cario gynnau Kalashnikov ac yn gwisgo helmedau a gwisgoedd timau SWAT.

Mae dau arall yn parhau yn yr ysbyty gydag anafiadau, a digwyddodd yr ymosodiad cyn yr ornest rhwng y bocswyr Jamie Kavanagh ac Antonio Joao Bento.

Mae pryderon fod marwolaethau David Byrne ac Eddie Hutch yn gysylltiedig, ac yn deillio o’r elyniaeth gangiau sy’n gweithredu rhwng Dulyn a de Sbaen.

Mae pryder hefyd ymysg yr heddlu a’r Gweinidog Cyfiawnder y bydd rhagor o fygythiadau yn cael eu gwneud.

‘Camu ymlaen’

Mae’r Gweinidog Cyfiawnder, Frances Fitzgerald, wedi apelio ar unrhyw un sy’n aelodau o’r gangiau, ac sy’n ofni am eu bywydau, i fynd at yr heddlu i sicrhau eu diogelwch.
“Mae’n ymddangos bod rhai gangiau yn benderfynol o ryfela a dial lle mae bywyd dynol yn cyfrif dim,” meddai.

“Bydd yr heddlu yn cymryd camau angenrheidiol i geisio rhwystro rhagor o golli gwaed, ond mae’n rhaid inni gydnabod yr heriau byddan nhw’n eu hwynebu,” ychwanegodd.

Roedd gangiau wedi ceisio corddi’r dyfroedd  drwy anfon datganiad at y  BBC ym Melffast yn honni ei fod gan gangen o’r IRA, y “Continuity IRA”, yn hawlio cyfrifoldeb dros yr ymosodiad mewn gwesty yn Nulyn ddydd Gwener.

Er hyn, mae’r heddlu’n dweud nad ydyn nhw’n cysylltu’r ymosodiad yng ngwesty’r Regency gyda gweithred brawychol a’u  bod yn “cadw meddwl agored mewn perthynas â’r grwpiau troseddol fel rhan o’r ymchwiliad.”

Roedd ail ddatganiad, a ryddhawyd i’r Daily Mirror yn Iwerddon rhai oriau’n ddiweddarach, ac unwaith eto’n honni ei fod gan y “Continuity IRA”, yn gwadu’r honiad cyntaf.