Des James, tad y Preifat Cheryl James
Mae disgwyl i dad milwr ifanc o Langollen a fu farw ym marics y fyddin mwy na 20 mlynedd yn ôl, roi tystiolaeth yn yr ail gwest i’w marwolaeth heddiw.

Cafwyd hyd o’r Preifat Cheryl James, 18, gyda bwled yn ei phen ym Marics Deepcut yn Surrey ym mis Tachwedd 1995.

Roedd hi’n un o bedwar milwr ifanc i farw yno dros gyfnod o saith mlynedd.

Mae disgwyl i’w thad, Des James, 66, ymddangos fel tyst yn y cwest sy’n edrych ar dystiolaeth newydd sy’n awgrymu y gallai hi fod wedi cael ei hecsbloetio’n rhywiol gan uwch swyddogion cyn ei marwolaeth.