Mae’r gwasanaeth tân wedi cael eu galw i fflat uwchben siop anifeiliaid yng Nghastell-nedd.

Mae pum criw o Wasanaeth Tân ac Achub y De ar safle siop Reggae Reptiles ar Stryd y Frenhines yn y dref yn dilyn galwad am 8.15 fore Sul.

Does dim sicrwydd eto a gafodd unrhyw un ei anafu.

Mae swyddogion yr RSPCA wedi cael eu galw er mwyn gofalu am yr anifeiliaid yn y siop.