Mae pedwar o bobol wedi cael eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr M4.

Mae’r draffordd ynghau rhwng cyffordd 38 ym Margam a chyffordd 37 yn Y Pîl yn dilyn y digwyddiad fore Sul.

Does neb wedi’i anafu’n ddifrifol, ond cafodd y gwasanaeth tân eu galw gan fod un cerbyd ar dân.