Mae dau ddyn yn ymladd am eu bywydau, ac mae pedwar arall wedi’u hanafu, mewn gwrthdrawiad yn Wrecsam.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i gar Vauxhall Corsa o liw glas daro coeden ar Ffordd Llai yn ardal Bradle o’r dre’.

Fe ddaeth datganiad gan Heddlu Gogledd Cymru yn cadarnhau fod gyrrwr y car a’r dyn oedd yn y sedd agosaf ato mewn cyflwr difrifol iawn, a’u bod wedi’u cludo i ysbyty yn Stoke.

Y gred ydi fod y chwe dyn yn eu harddegau hwyr neu yn eu 20au cynnar.

Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio ar i dystion neu unrhyw un sydd â gwybodaeth am y gwrthdrawiad, gysylltu â nhw ar y rhif 101.