Mae pedwar o bobol wedi cael eu harestio ar ôl i gorff dyn 64 oed gael ei ddarganfod mewn tŷ yn Grimsby ddydd Mercher.

Cafodd dynes 33 oed ei harestio ddydd Sadwrn wrth i’r heddlu gadarnhau eu bod nhw’n trin marwolaeth Billy Baker fel llofruddiaeth.

Mae tri arall – dyn 40 oed, dyn 34 oed a dynes 34 oed – wedi cael eu harestio ar amheuaeth o lofruddio.

Cafwyd hyd i’r corff mewn tŷ brynhawn dydd Mercher.

Mae’r pedwar yn cael eu holi yn y ddalfa.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth.