Mae’r heddlu’n ymchwilio i lofruddiaeth dyn 23 oed yn Bolton wedi iddo gael ei drywanu i farwolaeth.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Breightmet am 4.15 fore Sul, a chafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty, lle bu farw’n ddiweddarach.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac mae’r heddlu yn Bolton a Manceinion cynnal ymchwiliad.

Does neb wedi cael ei arestio hyd yn hyn.