Mae Heddlu Dyfed-Powys wedi dod o hyd i ddynes 81 oed oedd wedi mynd ar goll o’i chartref yn Llangennech.

Apeliodd yr heddlu am wybodaeth am Mary Angela Leaf am nad oedd hi wedi cael ei gweld ers amser cinio dydd Sul.

Ond daeth cadarnhad nos Sul eu bod nhw wedi dod o hyd iddi a’i bod hi’n ddiogel.