Cafodd dau o bobol eu cludo i’r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 rhwng Abercynon a Phontypridd brynhawn Sul.

Cafodd y ddau – y gyrrwr a theithiwr – driniaeth am fan anafiadau.

Roedd cryn oedi i gyfeiriad y de yn dilyn y gwrthdrawiad toc wedi 1 o’r gloch.

Tarodd cerbyd 4×4 yn erbyn postyn ar y ffordd, cyn i’r postyn syrthio i ganol y ffordd ddeuol.

Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth tân eu galw.