Mae dyn 18 oed o Lanelli a gafodd ei arestio fel rhan o ymchwiliad i’r ymosodiad seibr ar gwmni TalkTalk, wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth.

Cafodd ei arestio ar ôl i’r heddlu gynnal cyrch ar eiddo yn Llanelli ddydd Mawrth a chafodd ei gadw yn y ddalfa gan Heddlu Dyfed Powys ar amheuaeth o flacmel.

Cafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tan fis Mawrth 2016, meddai Scotland Yard.

Mae pedwar o bobl eraill eisoes wedi cael eu harestio yn ystod yr ymchwiliad gan gynnwys bachgen 15 oed o Ogledd Iwerddon a gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.

Cafodd dau fachgen 16 oed a dyn 20 oed hefyd eu harestio ers yr ymosodiad seibr fis diwethaf.

Yn ystod yr ymosodiad fe lwyddodd yr hacwyr i gael manylion 156,959 o gwsmeriaid a 15,656 o fanylion cyfrifon banc.

Dyma oedd y trydydd ymosodiad seibr ar TalkTalk o fewn wyth mis, gyda digwyddiadau ym mis Awst a Chwefror.

Mewn datganiad dywedodd yr Heddlu Metropolitan bod yr ymchwiliad yn parhau.