Beic Saracen Myst Downhill Manon Carpenter
Mae pencampwraig byd o Gaerffili wedi dweud ei bod hi’n torri ei chalon ar ôl i ladron ddwyn deg beic o garej ger ei chartref.

Llynedd fe enillodd Manon Carpenter, sydd yn 22 oed ac yn arbenigo mewn beicio mynydd lawr rhiw, Gyfres Cwpan y Byd ei champ.

Heddiw cafodd Heddlu Gwent alwad i ddweud bod dau feic modur ac wyth beic wedi cael eu dwyn o gartref Manon Carpenter a’i rhieni.

Yn ôl yr heddlu maen nhw’n credu i’r beiciau gael eu dwyn rhywbryd rhwng 7yh nos Sul, 22 Tachwedd a bore dydd Mawrth, 24 Tachwedd.

Gwaith caled yn ofer

Dywedodd Manon Carpenter eu bod wedi mynd a holl feiciau ei theulu, a’i bod hi’n bosib na fydd hi’n gallu ymarfer dros y gaeaf oni bai ei bod hi’n eu cael nhw nôl.

“Rydych chi jyst yn teimlo’ch bod chi’n gweithio tuag at rywbeth ac yna mae pobl yn meddwl y gallan nhw gerdded mewn a dwyn pethau,” meddai wrth Radio Wales.

“Yn ffodus dyw hi ddim yng nghanol y tymor neu fe fyddai hi wedi bod yn drychineb, ond dw i’n mynd i ffwrdd ym mis Rhagfyr felly fe fydd yn rhaid i mi sortio rhywbeth allan cyn hynny.

“Mae rhywun yn gwneud tipyn o arian,” ychwanegodd.

“Dw i’n torri fy nghalon. Roedden ni’n meddwl bod ein garej yn eithaf diogel.”

Deg beic

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau eu bod yn ymchwilio i’r lladrad ac wedi gofyn am wybodaeth er mwyn dod o hyd i’r beiciau.

Cafodd dau feic modur du ac oren ar gyfer defnydd oddi ar y ffordd eu dwyn, un yn fodel KTM EXC 250 a’r llall yn KTM XC 150 2011.

Yn ychwanegol at hynny fe gafodd beic mynydd Dartmoor Dirtjump a saith beic mynydd Saracen eu dwyn, gan gynnwys un prototeip Myst Downhill 2016.