Fe gafodd heddlu arfog eu galw i ardal yng Nghaerdydd neithiwr, wrth i ddyn gael ei arestio ar amheuaeth o fod â gwn yn ei feddiant.

Mae’r digwyddiad bellach ar ben, ac mae’r dyn 25 oed wedi’i gadw yn y ddalfa yng Ngorsaf Heddlu Bae Caerdydd.

Fe alwyd yr heddlu i’r lleoliad yn Sblot am tua 11.30yh nos Lun. Fe fu rhan o Ffordd Casnewydd ynghau am gyfnod wedi’r arestio.

Mae swyddogion yn parhau i chwilio eiddo ar Stryd Gold.

Ni chafodd unrhyw un ei anafu ac ni fu perygl i’r cyhoedd.