Mae’r heddlu yn parhau i ymchwilio i ladrad mewn cartref dynes 97 oed yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth dyn ifanc dorri i mewn i dŷ’r ddynes ar Heol Pantmawr, Rhiwbeina am tua 1yb, ddydd Sadwrn, 21 Tachwedd wrth iddi gysgu. Fe wnaeth ei deffro a mynnu cael ei gemwaith a’i harian.

Dywedodd y Ditectif Ringyll, Chris Grey fod y digwyddiad yn “warthus”, gan ddweud hefyd bod yr heddlu yn gwneud popeth yn eu gallu i ddod o hyd i’r dyn oedd yn gyfrifol.

“Rydym wedi cael ymateb gwych gan y gymuned sydd nid yn unig wedi codi swm sylweddol o arian i’r wraig, ond sydd hefyd wedi cysylltu â ni i roi gwybodaeth,” meddai.

Fe alwodd hefyd ar i unrhyw un sy’n adnabod y person sy’n cael ei amau i roi gwybod i’r heddlu, “er mwyn y dioddefwr oedrannus sydd wedi bod drwy brofiad dychrynllyd.”

Disgrifiad y dyn

Y gred yw bod y person sy’n cael ei amau’n ddyn ifanc gwyn, oedd yn gwisgo sgarff ddu, anorac du a jîns.

“Rydym yn edrych ar y camerâu cylch cyfyng a hoffem ofyn i unrhyw un sydd â chamera CCTV preifat yn yr ardal i gysylltu â ni er mwyn i ni edrych arno,” ychwanegodd Chris Grey.

Yn ogystal ag arian, roedd y lleidr hefyd wedi dwyn mwclis sy’n cynnwys carreg amethyst garw.

Mae Heddlu De Cymru yn gofyn i unrhyw un a allai helpu â’r ymchwiliad i ffonio 101 neu Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111 gan ddyfynnu’r rhif, 1500431723.