Becky Watts
Mae llysfrawd y ferch ysgol Becky Watts o Fryste a’i gariad wedi eu cael yn euog o’i lladd.

Yn Llys y Goron Bryste, cafwyd Nathan Matthews, 28, yn euog o’i llofruddio, a chafwyd ei gariad Shauna Hoare yn euog o ddynladdiad.

Roedd Matthews wedi cyfaddef yn ystod yr achos llys ei fod wedi lladd ei llyschwaer, ond roedd yn gwadu ei llofruddio.

Cafwyd cariad Matthews, Shauna Hoare, 21, yn ddieuog o lofruddiaeth ond yn euog o ddynladdiad.

Cafwyd y ddau yn euog o gynllwynio i gipio Becky, gwyrdroi cwrs cyfiawnder ac o atal claddedigaeth ei chorff.

Roedd Matthews yn mynnu mai ceisio codi ofn ar Becky oedd ei fwriad ar Chwefror 19 eleni, ond nad oedd yn bwriadu ei lladd, ac nad oedd gan Hoare unrhyw ran yn ei marwolaeth.

Ond cafodd ei ddadl ei gwrthod gan y rheithgor.

Cafwyd dau ddyn arall – James Ireland, 23, a Donovan Demetrius, 29, yn ddieuog o gynorthwyo troseddwr.

Cefndir

 

Clywodd y llys fod Matthews wedi llusgo corff Becky i gist ei gar a’i fod wedi gyrru i’w gartref e a Hoare ddwy filltir i ffwrdd.

Dros gyfnod o dridiau, prynodd Matthews lif a chyfarpar arall er mwyn torri ei chorff yn ddarnau a’i osod mewn pecynnau.

Cafodd y pecynnau’n cynnwys darnau o gorff Becky eu storio mewn bocs a chesys dillad, a’u symud i sied ar Chwefror 24.

Cafwyd hyd i weddillion Becky ar Fawrth 3.

Tair awr a hanner yn unig gymerodd hi i reithgor benderfynu ar chwe chyhuddiad yn erbyn Matthews, Hoare, Ireland a Demetrius.

Mae disgwyl i Matthews a Hoare gael eu dedfrydu ddydd Gwener.