Y Cwnstabl Dave Phillips, gyda'i wraig Jennifer
Daeth cannoedd  o alarwyr a swyddogion heddlu i angladd yr heddwas a gafodd ei ladd wedi i gerbyd ei daro yng Nglannau Mersi fis diwethaf.

Cynhaliwyd angladd y Cwnstabl Dave Phillips, 34, yn Eglwys Gadeiriol Lerpwl heddiw, gyda’i weddw Jennifer Phillips, a’u merched Abigail, 7 oed, a Sophie, 3 oed, yn arwain y galarwyr.

Cafodd Dave Phillips ei daro gan dryc tra’n ceisio atal y cerbyd rhag ffoi yn dilyn byrgleriaeth ar Hydref 5.

Bu farw yn yr ysbyty’n fuan wedi’r digwyddiad yn Wallasey.

Daeth swyddogion heddlu o bob cwr o’r wlad i’r angladd yn Lerpwl heddiw.

Roedd yr eglwys wedi’i haddurno tu fewn â blodau a rhubanau gwyn a glas fel teyrnged i’w alwedigaeth.