Llys y Crwner yn Warrington
Mi fydd arweinydd grŵp cefnogi teuluoedd Hillsborough yn rhoi tystiolaeth i’r cwest i farwolaeth 96 o gefnogwyr pêl-droed heddiw.

Bu farw mab Margaret Aspinall, James, yn 18 oed yn y trychineb yn y stadiwm pêl-droed yn Sheffield yn 1989.

Roedd llys y crwner yn Warrington eisoes wedi clywed datganiad y teulu ar ddechrau’r gwrandawiadau.

Bryd hynny, dywedodd ei frawd David: “Daeth tywyllwch dros ein teulu ar Ebrill 15, 1989 a dim ond trwy fod yma nawr, cael disgrifio’r person dymunol oedd James, sydd wedi rhoi ychydig o oleuni i’n teulu ar y tywyllwch hwnnw.”

Fe fu James yn gweithio gyda chwmni ceir cyn symud ymlaen i fod yn glerc llongau.

Clywodd y llys ei fod yn ffan o gerddoriaeth Chris de Burgh, ac mae geiriau’r gân ‘Carry Me Like a Fire in Your Heart’ ar garreg ei fedd.

Bydd y llys hefyd yn clywed tystiolaeth heddiw am Steven Fox, 21, o Benbedw.