Cafodd mwy na saith miliwn o achosion o dwyll a throseddau seiber eu cyflawni mewn blwyddyn, mae’r amcangyfrifon swyddogol cyntaf o’r troseddau wedi datgelu.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol mae ymchwil cychwynnol yn amcangyfrif bod 5.1 miliwn o achosion o dwyll, yn ymwneud a 3.8 miliwn o ddioddefwyr yng Nghymru a Lloegr yn y 12 mis cyn cael eu holi rhwng mis Mai ac Awst.

Yn ogystal amcangyfrifwyd bod 2.5 miliwn o achosion o droseddau seiber o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyfrifiaduron.

Mae’r data gan yr Arolwg Troseddu yng Nghymru a Lloegr hefyd yn datgelu bod nifer y troseddau yn gyffredinol wedi gostwng 8% ers y llynedd gydag oddeutu 6.5 miliwn o droseddau wedi’u cyflawni.

Dyma’r lefel isaf ers i’r arolwg ddechrau yn 1981.

Mae ffigurau trosedd yr heddlu, sy’n cael eu crynhoi mewn ffordd wahanol, wedi dangos cynnydd o 5%, gyda 4.3 miliwn o achosion.

Ffigurau yn ‘sylweddol uwch’ na rhai’r heddlu

Mae’r ffigurau am droseddau o dwyll a throseddau seiber yn sylweddol uwch na ffigurau’r heddlu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

“Mae nifer o resymau pam fod amcangyfrif yr Arolwg Troseddu yng Nghymru a Lloegr cymaint yn uwch na’r ffigurau sydd wedi cael eu cofnodi gan yr heddlu,” nododd yr arolwg.

Ac mae hyn am fod yr achosion sy’n cael eu cynnwys yn yr arolwg yn cwmpasu “sbectrwm llawn” o niwed neu golled.

Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, mae ffigurau’r heddlu yn debygol o fod yn is achos nad yw pobl yn debygol o roi gwybod i’r heddlu am drosedd sydd ond yn creu “anghyfleuster” i’r dioddefwr.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn  dangos bod tua 600,000 o droseddau o dwyll wedi cael eu cofnodi gan y Swyddfa Wybodaeth am Dwyll Genedlaethol, sy’n gynnydd o 9% o gymharu â’r flwyddyn flaenorol.

Roedd dros hanner o’r dioddefwyr wedi colli arian, ac o’r rhif hwnnw, roedd 78% wedi cael iawndal a 62% wedi cael eu had-dalu.

Roedd y troseddau seiber mwyaf cyffredin yn cynnwys heintio dyfais y dioddefwr â firws a “hacio” i mewn i e-byst a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol pobl.