Y Goruchel Lys
Mae dwy ddynes aeth â’u hachos i’r Goruchel Lys ar ôl iddyn nhw gael ysgariad wedi cael clywed y dylen nhw dderbyn rhagor o arian gan eu cyn-wŷr.

Dywedodd Alison Sharland o Sir Gaer a Varsha Gohil o ogledd Llundain fod eu cyn-wŷr wedi camarwain barnwyr ynghylch faint o arian sydd ganddyn nhw.

Roedd y ddwy yn galw ar y llys i gynnal gwrandawiadau o’r newydd, ond roedd eu cyn-wŷr yn gwrthwynebu’r cynlluniau.

Roedd y ddwy wraig wedi dod i gytundeb cyn troi at y Goruchel Lys, ond fe ddaethon nhw i sylweddoli eu bod nhw wedi cael eu camarwain.

Derbyniodd Alison Sharland, 48, fwy na £10 miliwn mewn arian parod ac eiddo gan ei chyn-ŵr Charles dair blynedd yn ôl.

Roedd hi o’r farn bod busnes ei chyn-ŵr werth rhwng £31 miliwn a £47 miliwn, ond roedd adroddiadau’r wasg yn nodi ffigwr o £1 biliwn.

Roedd Varsha Gohil wedi derbyn £270,000 a char gan ei chyn-ŵr Bhadresh dros ddegawd yn ôl.

Cafodd ei chyn-ŵr hithau ei erlyn am drosedd ariannol yn dilyn eu hysgariad.

Dydy’r ddwy ddynes ddim eto wedi dweud faint o arian maen nhw’n ei hawlio bellach.

Bydd yr achos yn dychwelyd i’r Uchel Lys i’w drafod ymhellach.