Mae nifer y troseddau casineb sy’n cael eu hadrodd i’r heddlu wedi cynyddu 18%, yn ôl ffigurau newydd.

Cafodd 52,528 o droseddau o’r fath eu hadrodd i’r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2014/15 – cynnydd o 18% ers y flwyddyn flaenorol yn ôl ffigurau’r Swyddfa Gartref.

Roedd mwy na 80% yn cael eu hystyried yn droseddau casineb tra bod eraill yn ymwneud a chrefydd, anabledd, tueddiadau rhywiol a dioddefwyr trawsrywiol.

Mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi cyhoeddi y bydd troseddau casineb gwrth-Fwslimaidd yn cael eu cofnodi fel categori ar wahân am y tro cyntaf gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr.

Mae’n golygu y bydd Islamoffobia yn cael ei drin yr un fath ag ymosodiadau gwrth-semitig sy’n targedu Iddewon, sydd wedi cael eu cofnodi ar wahân ers peth amser.