Fe fydd troseddau casineb gwrth-Fwslimaidd yn cael eu cofnodi fel categori ar wahân am y tro cyntaf gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr, cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron.

Mae’n golygu y bydd Islamoffobia yn cael ei drin yr un fath ag ymosodiadau gwrth-semitig sy’n targedu Iddewon, sydd wedi cael eu cofnodi ar wahân ers peth amser.

Daeth y cyhoeddiad wrth i’r Swyddfa Gartref baratoi i ddatgelu ystadegau newydd sy’n debygol o ddangos cynnydd yn nifer y troseddau casineb dros y flwyddyn ddiwethaf.

Mae’n dilyn y cynnydd o 45% mewn troseddau casineb a welwyd yn 2013/14 yn sgil llofruddiaeth y milwr Lee Rigby yn Woolwich, Llundain.