Mae pobol wedi cael eu gorfodi i adael tafarn a gwesty yng Nghwmbrân yn dilyn pryderon bod nwy yn gollwng yn yr ardal.

Cafodd nifer o ffyrdd eu cau yn dilyn y digwyddiad ar Ffordd Avondale y dref ddydd Iau.

Mae gweithwyr yn ymdrin â’r sefyllfa ar hyn o bryd, ac mae lle i gredu bod un o bibellau nwy’r ardal wedi cael ei thorri gan gontractwyr eraill fu’n gweithio yn yr ardal.

Mae’r sefyllfa hefyd wedi amharu ar Chapel Lane a Ffordd Pont-rhyd-yr-ynn yn y dref.