Mason Jones
Yn ystod Adolygiad Barnwrol i farwolaeth bachgen a fu farw o wenwyn bwyd E.coli yn 2005, mae llys wedi clywed heddiw fod y cigydd a oedd wedi darparu’r cig a oedd wedi’i heintio, yn ymwybodol o’r risgiau.

Fe fu farw Mason Jones, 5 oed, oedd yn byw ym Margoed yn ystod yr Hydref 2005, wedi iddo fwyta cig a oedd wedi’i heintio â gwenwyn bwyd E.coli yn ei ginio ysgol.

Clywodd y gwrandawiad fod y cigydd, William John Tudor, wedi cael ‘hyfforddiant digonol’ mewn hylendid bwyd, a’i fod yn ymwybodol y gallai rhywun farw o’r gwenwyn a oedd yn y cig.

Fe gyhoeddodd Crwner Gwent, David Bowen, rheithfarn naratif yn ystod y cwest cyntaf yn 2010.

Dywedodd Mark Powell QC, sy’n amddiffyn y teulu, fod y Crwner wedi cofnodi’r rheithfarn “anghywir” bryd hynny.

Mae’r teulu’n dadlau y dylid fod wedi cofnodi rheithfarn o ladd anghyfreithlon ac maen nhw wedi bod yn ceisio sicrhau ail gwest.

Clywodd Canolfan Cyfiawnder Sifil a Theulu Caerdydd heddiw bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyfaddef  wrth y teulu eu bod wedi gwneud “y penderfyniad anghywir” wrth beidio cyhuddo William John Tudor o ddynladdiad.

Bydd penderfyniad am gais y teulu am ail gwest yn cael ei gyhoeddi ar ddyddiad yn ddiweddarach.

‘Cig i 40 o ysgolion eraill’

Fe garcharwyd William John Tudor o’r Bont-faen, Bro Morgannwg am flwyddyn yn 2007 – a hynny am dorri cyfreithiau diogelwch bwyd.

Roedd tystiolaeth yr heddlu o’r ymchwiliad yn dangos fod bacteria E.coli wedi’i ganfod mewn cigoedd eraill y cigydd John Tudor a’i Fab ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

Roedd y cigydd yn cyflenwi cigoedd i fwy na 40 o ysgolion eraill yng nghymoedd De Cymru ar y pryd hefyd. Cafodd mwy na 160 o bobl eu taro’n wael gydag E.coli ar y pryd. Mason Jones oedd yr unig un a fu farw.