Mae dynes a’i mab wedi cael eu cyhuddo o lofruddio ei gwr 45 oed yn Nhrealaw ger Tonypandy ddydd Sadwrn.

Cafodd Mark Hopes ei ddarganfod yn eu cartref yn Heol Brithweunydd, Trealaw am 7.20yb ddydd Sadwrn, 3 Hydref.

Mae ei wraig Maria Louise Hopes, 45, o Donypandy, a’i mab Leon Port,  23, o Aberpennar wedi cael eu cyhuddo o lofruddio.

Mae cariad Leon Port, Rebecca Michelle Donovan, 23, o Aberpennar wedi’i chyhuddo o geisio gwyrdroi cwrs cyfiawnder.

Fe fydd y tri yn mynd gerbron Llys Ynadon Pontypridd bore ma.

Dywedodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Paul Hurley: “Mae digwyddiadau o’r fath mewn cymuned mor glos yn ne Cymru yn hynod o brin ac rwy’n deall bod pobl wedi bod mewn sioc oherwydd hyn.

“Rwy’n gobeithio bod yr arestiadau a’r cyhuddiadau, a’r ymchwiliad trylwyr sy’n parhau, yn sicrhau’r gymuned. Hoffwn ddiolch i’r cyhoedd hefyd am eu cymorth hyd yn hyn.”

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio’r heddlu ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555111 gan nodi’r cyfeirnod 1500365324.