Mae teulu merch o Geredigion a gafodd ei lladd mewn damwain car wedi galw am gosbau llymach i droseddwyr sy’n yfed a gyrru.

Cafodd Gareth Entwhistle o Giliau Aeron ei ddedfrydu i garchar am bum mlynedd a chwe mis yn Llys y Goron Abertawe ddoe wedi iddo bledio’n euog i achosi marwolaeth Miriam Briddon, oedd yn 21 oed, drwy yrru’n ddiofal a dan ddylanwad alcohol.

Bydd yn rhaid i Gareth Entwhistle dreulio o leiaf hanner ei ddedfryd dan glo.

Cafodd Miriam Briddon o Cross Inn, Cei Newydd ei lladd ar ôl i’w char gael ei daro gan gar Gareth Entwhistle ar yr A482 ger Ciliau Aeron ar 29 Mawrth 2014.

Rhybuddio yn erbyn yfed a gyrru

“Oni bai am y dyn hwn, bydde hi dal ‘ma. Mae e wedi rhwygo ni, mae e wedi mynd a Miriam wrtho ni. Mae hynny’n gwneud i mi deimlo’n grac iawn,” meddai Ceinwen Briddon wrth raglen y Post Cyntaf bore ‘ma.

“Ni wedi colli Miriam nawr, hyd yn oed os bydde fe’n cael 20 mlynedd yn y carchar, bydde fe ddim yn ddigon.

“Oedd Miriam yn hollol ddiniwed, oedd ‘na un person y noson hynny ddim wedi meddwl am ddim, wedi yfed, wedi mynd tu ôl i’r olwyn ac wedi gyrru fel ffŵl.”

“Dwi’n teimlo’n gryf, mae ishe i bobl sylweddoli ac i gofio gallech chi fod tu ôl i olwyn y car a lladd rhywun hollol ddiniwed.”

‘Pa fath o neges mae hyn yn rhoi mas i bobl?’

Mae chwaer hynaf Miriam, Katie-Ann Briddon wedi sôn am ei rhyddhad o weld Gareth Entwhistle yn cael ei garcharu ond hefyd am ei rhwystredigaeth na chafodd ddedfryd hirach.

“Mae wedi hala bron a bod 18 mis i’w garcharu achos ei fod e wedi newid ei ble ond allwn ni stopio meddwl amdano  fe nawr a chanolbwyntio ar Miriam,” meddai wrth golwg360.

“Mi wnaeth e yfed, gyrru a lladd rhywun a bydd e mas o’r carchar mewn llai na thair blynedd ac yn gallu mynd ymlaen â’i fywyd.

“Pa fath o neges mae hyn yn rhoi mas i bobl? Oes pwynt gwario ar yr holl ymgyrchoedd atal yfed a gyrru os yw’r dedfrydau mor fyr?” gofynnodd.