Mae tân y tu allan i fwyty yng nghanol Caerdydd wedi gorfodi siopwyr a gweithwyr i adael yr ardal.

Mae’r fflamau a ddeuai o fwyty Locke and Remedy yn ardal Yr Aes bellach wedi’u diffodd, a hynny wedi i’r gwasanaeth tân dderbyn galwad tua 1.20yp.

Ond fe gafodd peirianwyr nwy hefyd eu galw yno i geisio gweld beth achosodd y tân.

Synhwyrodd y bobl oedd yn y bwyty fod rhywbeth o’i le pan ddechreuodd y goleuadau fflachio. Mae marchnad y ddinas wedi colli ei chyflenwad trydan, ac mae’r strydoedd yn arwain at Yr Aes wedi eu cau.