Mae gwasanaeth ymladd tanau yn rhybuddio rhag y perygl o e-sigarennau yn gor-boethi, wedi i gartre’ stiwdants ym Mangor gael ei ddifetha’ gan fwg.

Fe fu criwiau o ymladdwyr o ogledd Cymru eu galw i gyfeiriad yn y ddinas brynhawn ddoe, lle daethon nhw o hyd i un o lofftydd y llawr gwaelod yn llawn mwg.

Y gred ydi fod e-sigaret wedi’i gadael yn tsiarjio, a’i bod wedi gor-boethi a chynnau fflam ym matres y gwely.