Angladd Kevin McGuigan
Mae aelod blaenllaw o Sinn Fein wedi cael ei arestio ar amheuaeth o lofruddio Kevin McGuigan yn Belfast.
Cafodd Bobby Storey ei arestio heddiw mewn perthynas â’r digwyddiad y tu allan i gartref Kevin McGuigan fis diwethaf.
Cafodd ei saethu’n farw ac mae’r heddlu’n dweud na chafodd y weithred ei hawdurdodi gan yr IRA.
Mae Storey ymhlith tri o bobol sydd wedi cael eu harestio.
Mae 16 o bobol wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r achos hyd yma.
Roedd nifer yn credu bod Kevin McGuigan ynghlwm wrth lofruddiaeth cyn-arweinydd yr IRA, Gerard ‘Jock’ Davison bedwar mis yn ôl.
Mae’r mater yn cael ei drafod yn Stormont ar ôl i’r ffrae achosi tensiynau yng nghynulliad Gogledd Iwerddon.