Mae gwasanaeth achub awyr newydd yn y gogledd wedi derbyn 100 o alwadau yn ystod y ddau fis ers ei sefydlu.

Fe ddechreuodd y cwmni weithredu ym mis Mehefin, ar ôl i gwmni Bristow ennill cytundeb yn 2013 gan y Llywodraeth i weithredu’r gwasanaeth achub mynydd ac arfordir.

Hofrenyddion y llu awyr o’r Fali oedd yn gwneud y gwaith tan hynny, ond mae’r gwasanaeth newydd yn gweithio o faes awyr Caernarfon yn Dinas Dinlle.

“Yn hanesyddol, mae RAF Fali wedi bod ymhlith y prysuraf ym Mhrydain ac mi roeddem yn gwybod y byddai’n brysur yn syth bin,” meddai pennaeth y criw awyr, Kevin Weller.

“Mae’r swyddi yr ydym wedi cael ein galw i’w gwneud yn heriol iawn ar brydiau, yn enwedig ar y mynyddoedd mewn tywydd gwael ac yn ystod y nos.

“Mae rhai o’r galwadau achub wedi golygu ein bod yn hedfan cyn belled a Chaerdydd i’r de ac Ardal y Llynoedd yng ngogledd Lloegr, ond o ganlyniad i gyflymder yr hofrenyddion newydd a’r offer blaengar are eu bwrdd, mae hynny wedi profi’n ddi-drafferth.

“Mae’r newid o wasanaeth milwrol i wasanaeth sifilian wedi bod yn hynod llyfn diolch i’r gefnogeth gan dimau achub mynydd yr ardal a’r bad achub.”

Daeth galwad gyntaf y gwasanaeth ddim ond wyth awr wedi i’r gwasanaeth ddechrau, gyda galwad i achub cerddwr o’r mynydd.