Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad hiliol ar ddyn ifanc Asiaidd  yn Ynys Môn.

Roedd y dyn 17 oed yn cerdded i fyny Allt Richmond yng Nghaergybi tuag at ardal Morawelon ar ddydd Mawrth, 1 Medi pan ddaeth tri llanc ifanc ato.

Roedd y tri, y credir sydd rhwng 13 a 16 oed, wedi gweiddi ar y dyn cyn ymosod arno a’i adael ag anafiadau i’w wyneb.

Gadawodd y tri’r bachgen ar ochr y ffordd cyn cerdded i lawr yr allt am y porthladd.

Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Gwynedd, Bangor mewn ambiwlans lle cafodd driniaeth i’w anafiadau.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad am tua 11.50yb ac roedd y tri llanc yn gwisgo siwmperi gyda hwd.

Meddai’r swyddog sy’n ymchwilio i’r digwyddiad, PC Peter Grant: “Rydym yn trin yr achos hwn fel un a ysgogwyd gan hiliaeth ac mae ein hymholiadau’n parhau wrth i ni adolygu lluniau Teledu Cylch Cyfyng.

“Rydym yn annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth am y tri unigolyn i gysylltu â ni ar unwaith.”

Fe ddylai unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â’r Heddlu ar 101 neu ffonio Taclo’r Taclau yn ddienw ar 0800 555 111 a dyfynnu’r cyfeirnod RC15133621.