Mae dyn 80 oed mewn cyflwr difrifol yn dilyn gwrthdrawiad â fan Ford Transit mewn gorsaf betrol yn Llansantffraid ym Mhowys.

Cafodd y dyn oedrannus ei gludo i Ysbyty Brenhinol Amwythig yn dilyn y digwyddiad am 2.45 brynhawn dydd Mawrth.

Mae’r heddlu wedi apelio am dystion.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.