Y gyrrwr beic modur mae'r heddlu'n awyddus i'w holi
Mae bachgen 11 oed mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberpennar.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar Ffordd Penrhiwceiber y dref am oddeutu 8.45 y bore ma.

Cafodd ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Athrofaol Caerdydd.

Mae’r heddlu’n awyddus i siarad â gyrrwr beic modur coch a adawodd yr ardal yn fuan wedi’r gwrthdrawiad.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.