Llys Ynadon Caerdydd
Fe fydd dyn yn mynd gerbron ynadon Caerdydd y bore ma ar gyhuddiad o geisio llofruddio.

Mae’n dilyn digwyddiad yn  Adamscroft Place, Adamsdown ar ddydd Mawrth, 1 Medi.

Mae disgwyl i Raymond Burrell, 38, fynd gerbron Llys Ynadon Caerdydd y bore ma.

Mae hefyd wedi ei gyhuddo o ddau gyhuddiad o ymosod gyda’r bwriad o geisio rhwystro cael ei arestio.

Mae dyn 34 oed yn parhau mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd ar ôl iddo gael anafiadau difrifol i’w ben a’i wyneb.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500321067.