Llys Ynadon Wrecsam
Mae dyn sydd wedi cael ei gyhuddo o lofruddio babi deufis oed wedi bod gerbron llys heddiw.

Bu Sean Michael Mullender, 22, o Gei Conna, Sir y Fflint gerbron Llys Ynadon Wrecsam yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu i farwolaeth y babi, Daniel John Mullender.

Cafodd yr heddlu eu galw gan swyddogion iechyd ar ôl i’r bachgen bach gael ei gludo i’r ysbyty.

Bu farw ar 4 Hydref, 2014.

Dywedodd Heddlu’r Gogledd bod Sean Michael Mullender wedi cael ei gyhuddo’r bore ma o lofruddio Daniel John Mullender yn dilyn ymchwiliad.

Cafodd Mullender ei gadw yn y ddalfa.