Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod yn dilyn digwyddiad mewn tŷ yn Adamsdown, Caerdydd ddoe.

Cafodd dyn 34 oed anafiadau difrifol i’w ben a’i wyneb yn y digwyddiad yn Adamscroft Place tua 7yb ar ddydd Mawrth, 1 Medi.

Mae’r dyn mewn cyflwr difrifol ond sefydlog yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd.

Credir bod y ddau ddyn yn adnabod ei gilydd ac nid yw’r heddlu’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r ymosodiad.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio Heddlu’r De ar 101 neu Taclo’r Taclau ar 0800 555 111 gan nodi’r cyfeirnod 1500321067.