Bydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyfarfod heddiw i drafod y posibilrwydd o gau Llysoedd Barn Caerfyrddin.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad diweddar i gau deg o lysoedd barn yng Nghymru.

Mae dyfodol 91 o lysoedd a thribiwnlysoedd ar draws Cymru a Lloegr yn y fantol yn sgil cynlluniau newydd Llywodraeth Prydain.

‘Mynegi pryderon’

Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi mynegi eu pryderon ynglŷn â chau’r llysoedd hyn, ac yn honni y byddai’n rhaid i bobol deithio ymhell, a hynny ar drafnidiaeth gyhoeddus, i gyrraedd eu llys agosaf.

Ond, mae Gweinidog y Llysoedd, Shailesh Vara, yn mynnu y byddai modd i bobol gyrraedd llys o fewn awr yn y car ar ôl cau’r canolfannau hyn.

Mae Cymdeithas y Gyfraith wedi cyhoeddi map ar-lein i ddangos sut y byddai cau’r llysoedd yn effeithio ar y bobol sy’n defnyddio’r canolfannau hynny.

Mae gan y llysoedd a’r cynghorau sir gyfle i drafod dyfodol y canolfannau, ond daw’r cyfnod ymgynghori i ben ar Hydref 8.

‘Dan fygythiad’

Y llysoedd sydd o dan fygythiad yng Nghymru yw:

Llysoedd Barn Aberhonddu

Llysoedd Barn Pen-y-bont ar Ogwr

Canolfan Gwrandawiadau Sifil, Teuluol ac Ewyllysiau Caerfyrddin

Llysoedd Barn Caerfyrddin

Llys y Goron a Llys Ynadon Dolgellau

Llys Ynadon Caergybi

Llys Sifil a Theuluol Llangefni

Llys Sifil a Theuluol Nedd Port Talbot

Llys Ynadon Pontypridd

Llys Ynadon Prestatyn

Tribiwnlys a Chanolfan Gwrandawiadau Wrecsam