Mae trigolion tai gerllaw safle ailgylchu Llandŵ ym Mro Morgannwg yn cael eu rhybuddio i gau eu drysau a’u ffenestri ar ôl tân mawr ar y safle ddoe.

Maen nhw hefyd yn cael eu cynghori i beidio â threulio mwy o amser nag sy’n raid y tu allan, wrth i’r tân ddal i fud-losgi.

Fe fu saith injan dân yn ymladd y tân a wnaeth gynnau yno tua 4 o’r gloch brynhawn ddoe.

Mae Cyngor Sir Bro Morgannwg, Cyfoeth Naturiol Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru ymhlith y cyrff cyhoeddus sy’n cadw llygad ar y sefyllfa.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor fod un o benaethiaid y Gwasanaeth Tân wrthi ar hyn o bryd yn trafod gyda pherchnogion parc carafannau cyfagos.

Dywedodd hefyd fod Dŵr Cymru yn ceisio datrys lleihad mewn pwysedd dŵr yn yr ardal.