Cafodd y gwasanaethau brys eu galw yn dilyn tân ar ystad ddiwydiannol ym Mro Morgannwg.

Mae saith injan dân wedi bod yn ceisio diffodd y tân ar y safle yn Llandŵ ger Y Bontfaen ers tua 4 o’r gloch brynhawn Sul.

Dydy’r adeilad ddim mewn ardal boblog, ac ni chafodd unrhyw adeiladau eu gwacáu oherwydd y tân.