Mae Heddlu’r De yn apelio am wybodaeth yn dilyn ymosodiad rhywiol ar ddynes yn Abertawe yn oriau man fore Sadwrn.

Digwyddodd yr ymosodiad yn ardal Bryn Siriol y ddinas am oddeutu 4 o’r gloch y bore.

Mae’r dyn sy’n cael ei amau o gwblhau’r ymosodiad yn groenddu, 20-30 oed, oddeutu 5’6″ neu 5’7″ ac o faint canolig.

Mae ganddo wallt ‘Affro’ byr ac ar y pryd, roedd yn gwisgo siwmper lwydfelen neu lwyd a throwsus du.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.