Mae Heddlu Gogledd Cymru’n apelio am wybodaeth ar ôl i feiciwr modur farw o ganlyniad i ddamwain gerllaw Wrescam fore ddoe.

Roedd y beiciwr modur, dyn yn ei 40au o ardal Penycae o Wrecsam, wedi dioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad â char, a bu farw’n ddiweddarach.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng ei feic modur Suzuki glas a gwyn a char Fiat glas ychydig cyn 7.40am ger tafarn y Cross Foxes yn Owrtyn.

Meddai’r Rhingyll Jane Thomas o’r Uned Plismona Ffyrdd:

“Mae ymchwiliad llawn yn digwydd ar hyn o bryd, ac fe hoffen ni glywed gan unrhyw un a oedd yn yr ardal ar y pryd ac y gallai fod wedi gweld y gwrthdrawiad neu ddigwyddiadau’n arwain ato.

“Rydan ni’n gofyn iddyn nhw gysylltu â ni ar 101 neu Taclo’r Tacle ar 0800 555 111 a nodi cyfeirnod S131094.”