Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig a’r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu amseroedd ymateb Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddi ffigurau diweddaraf amseroedd ymateb ambiwlansys Cymru ar gyfer mis Gorffennaf.

Mae’r ffigurau’n dangos na lwyddodd y gwasanaeth ambiwlans i gyrraedd eu targedau amser am y 21 mis yn olynol.

Mae Llywodraeth Cymru’n nodi y dylai 65% o alwadau sy’n dod  o dan Gategori A (galwadau tyngedfennol) gael eu hymateb o fewn 8 munud.

Ond, dengys ffigurau Gorffennaf 2015 mai dim ond 61.7 o’r galwadau hynny a lwyddodd i gyrraedd y targed amser o 8 munud.

Galwodd Darren Millar, Llefarydd Iechyd y Ceidwadwyr Cymreig hyn yn “sgandal cenedlaethol”.

Dywedodd Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig ei bod hi’n “flin” fod Cymru’n dal i fod â’r “amser ymateb ambiwlansys isaf yn y DU”.

‘Gwelliannau diweddar’

Yn ddiweddar, mae amseroedd ymateb yr ambiwlansys wedi gwella, gyda chynnydd o 0.3% ym mis Gorffennaf o’i gymharu â Mehefin.

“Rwy’n falch o weld rhywfaint o welliant”, meddai Kirsty Williams, “ond mae’n amlwg fod ein gwasanaeth ambiwlans yn dal i gael trafferth,” ychwanegodd.

Mewn ymateb i’r ffigurau diweddaraf, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod y ffigurau’n dangos yr ymateb gorau ers Tachwedd 2013.

Dywedodd y llefarydd hefyd fod canlyniadau’r arolwg cenedlaethol yn dangos fod 97% o’r bobol a gysylltodd â’r gwasanaeth ambiwlans wedi mynegi eu “hyder yn sgiliau’r parafeddygon”.

“Mae hyn yn brawf i ymroddiad a gwaith caled y staff sy’n aml yn cael eu beirniadu,” ychwanegodd y llefarydd.

‘Sgrapio targedau’

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y byddan nhw’n sgrapio rhai o dargedau amser ymateb yr ambiwlansys o fis Hydref 2015 ymlaen. Bydd hyn yn golygu y byddan nhw’n ystyried llai o alwadau fel ‘galwadau tyngedfennol’ sydd angen ymateb o fewn 8 munud.

Fe wnaeth Darren Millar feirniadu’r cynllun gan ddweud “yn lle sgrapio targedau, dylai Gweinidogion Llafur fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd er mwyn gwyrdroi’r perfformiadau gwael”.

“Gall amser aros am ambiwlans wneud y gwahaniaeth rhwng byw a marw,” ychwanegodd Darren Millar.