Becky Watts o Fryste
Mae chwech o bobol wedi ymddangos yn y llys mewn perthynas â llofruddiaeth Becky Watts o Fryste.

Diflannodd y ferch 16 oed o’i chartref ar Chwefror 19, a daeth yr heddlu o hyd i rannau o’i chorff yn ardal Barton Hill y ddinas ar Fawrth 2.

Cafodd ei llysfrawd Nathan Matthews, 28, a’i gariad e, Shauna Hoare, 21, eu cyhuddo o’i llofruddio.

Cafodd y ddau eu cyhuddo hefyd o wyrdroi cwrs cyfiawnder, cynllwynio i gaethiwo’n anghyfreithlon, atal claddedigaeth gyfreithlon a bod ag arf waharddedig yn eu meddiant.

Mae pedwar o bobol – Karl Demetrius (29), Donovan Demetrius (29), Jaydene Parsons (23) a James Ireland (23) wedi’u cyhuddo o gynorthwyo troseddwr.

Ymddangosodd y chwech gerbron Llys y Goron Bryste heddiw.

Bydd yr achos yn eu herbyn yn dechrau ar Hydref 6, ac mae disgwyl i’r achos bara hyd at bum wythnos.

Roedd nifer o aelodau teulu a ffrindiau Becky Watts yn bresennol yn y llys, ac yn gwisgo bathodynnau gyda llun ohoni arnyn nhw.

Cafodd Nathan Matthews, Shauna Hoare, Karl Demetrius a James Ireland eu cadw yn y ddalfa tan y gwrandawiad nesaf, tra bod Jaydene Parsons a Donovan Demetrius wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.