Mae un person wedi marw a nifer o bobl eraill wedi’u hanafu yn dilyn gwrthdrawiad yn Aberdâr yn oriau man y bore ma.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad tua 3.30yb fore dydd Llun ar ôl i fan LDV Maxus, a oedd y cludo wyth o bobl, fod mewn gwrthdrawiad a cheir oedd wedi’u parcio.

Bu farw dynes yn y fan a’r lle a chafodd y teithwyr eraill eu cludo i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Tywysog Charles.

Cafodd gyrrwr y fan, dyn 25 oed o Gwmaman, Aberdâr ei arestio ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru’n beryglus.

Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa tra bod ymchwiliadau’r heddlu’n parhau.

Mae teulu’r ddynes yn cael cymorth gan swyddogion cyswllt teulu arbenigol.

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth am y gwrthdrawiad ac yn annog unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu’r cerbyd yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101.