Mae Heddlu’r De yn ymchwilio i ddau wrthdrawiad difrifol rhwng ceir a beiciau modur ar yr A470.

Digwyddodd y gwrthdrawiad cyntaf rhwng beic modur a char ger cylchfan Merthyr Tudful yn Nant Ddu am oddeutu 12.10 y prynhawn yma.

Digwyddodd yr ail wrthdrawiad ugain munud yn ddiweddarach ger Ystad Ddiwydiannol Trefforest.

Mae cerbydau’n cael eu dargyfeirio ac mae’r heddlu wedi rhybuddio y bydd oedi hir.

Dylai cerbydau osgoi’r A470 yn yr ardal pe bai modd.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101.