Mae Heddlu De Cymru yn ymchwilio wedi i ddyn ddiodde’ ymosodiad difrifol yng Nghaerdydd yn oriau mân fore heddiw.

Fe ddaeth plismyn o hyd i’r dyn yn anymwybodol ar Stryd y Gogledd (North Street) yn y brifddinas.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 4.20yb, ac fe gafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty.